Y darn cyntaf a mwyaf amlwg o gyfarpar sydd ei angen yw
derbynnydd GPS, wrth gwrs. Mae’r rhain i’w cael mewn sawl ffurf
a maint ac am brisiau amrywiol, ond gellir prynu model awyr
agored cymharol rad fel y Garmin etrex gyda sgrin ddu a gwyn am
tua £80, ac mae’n ddigon addas ar gyfer y gamp. Mae dewisiadau
rhagorach yn cynnwys unedau gyda mapiau lliw, ond gall y rhain
fod yn fwy drud o lawer, ac nid ydyn nhw’n cymryd lle map a
chwmpawd traddodiadol yn llwyr. Yr ystyriaeth bwysicaf yw y
gellir cysylltu’r uned â chyfrifiadur personol er mwyn llwytho
gwybodaeth i lawr am y Cache.
Rhai o’r pethau eraill y byddwch chi eu hangen yw’r cit safonol
y dylech chi ei gario gyda chi ar unrhyw daith yn yr awyr agored,
fel map o’r ardal, cwmpawd, dillad gwrth-ddŵr ac esgidiau cadarn,
cyfforddus. Er bod GPS yn declyn llywio rhyfeddol, peidiwch ag
anghofio ei fod yn ddibynnol ar fatris a allai ddarfod, ac nid
yw’n gallu eich rhybuddio chi am unrhyw rwystrau a allai fod
o’ch blaen. Gall map a chwmpawd da eich helpu chi i ddod o hyd i
ffordd yn ôl i’ch car pan fydd popeth arall wedi methu, gan
osgoi unrhyw beryglon ar y ffordd.
Y cam nesaf yw dod o hyd i caches. Ewch i
www.geocachingwales.com
a
dewiswch yr ardal y byddech chi’n hoffi ei harchwilio. Bydd
rhestr o caches yn ymddangos, a gallwch ddewis y rhai sydd fwyaf
diddorol yn eich golwg chi, a chlicio am ragor o fanylion. Bydd
y dudalen nesaf yn rhoi cliwiau i chi am leoliadau’r caches, ac
yn cynnig dewis i lwytho cyfesurynnau’r cache i lawr i’ch GPS.
Trowch at lawlyfr eich GPS am ragor o wybodaeth ynghylch llwytho
i lawr y mannau lle ceir caches. Bydd y rhan fwyaf o gofnodion
yn rhoi union gyfesurynnau’r cache i chi, felly mae’n fater syml
o osod eich GPS i’ch arwain chi’n uniongyrchol i’r fan honno. Er
hynny, dim ond man cychwyn neu fan cyfleus i barcio a nodir ar
gyfer rhai caches, a bydd disgwyl i chi wedyn ddatrys lleoliad y
cache drwy ddarllen cyfres o gliwiau - gweler
caches pos ac aml-caches
yn yr eirfa.
Unwaith y byddwch chi wedi dod o hyd i’r cache, cofiwch nodi eich enw yn y llyfr log, a chofnodi eich ymweliad hefyd ar wefan y cache pan gyrhaeddwch chi eich cartref. Os yw’r cache yn ddigon mawr i gynnwys eitemau y gellir eu cyfnewid, gallwch amnewid y rhain am rai o’ch eiddo chi sydd o leiaf yn gyfwerth â’r eitem yn y cache.