Moesau Geocaching
Cynghorion Geocaching
- Peidiwch â gadael bwyd mewn cache. Gall bwyd ddifetha, a gall
yr arogl ddenu anifeiliaid, a allai dorri i mewn i’r cache a’i
ddinistrio.
- Peidiwch byth â rhoi unrhyw beth peryglus, anghyfreithlon na
thramgwyddus mewn cache. Mae Geocaching yn boblogaidd ymysg
teuluoedd, felly defnyddiwch synnwyr cyffredin wrth ddewis
eitemau i’w gadael.
- Cofiwch gyfnewid eitem am un sydd o leiaf yn gyfwerth. Mae
hyn yn sicrhau fod y caches yn parhau’n ddiddorol, ac yn atal y
caches rhag cael eu llenwi â’r math o sothach y byddech chi’n
dod o hyd iddo mewn Cracer Nadolig.
- Cofiwch roi’r cache yn ôl yn union fel y cawsoch chi ef, bob
amser. Dylai’r cache gael ei guddio’n dda yn yr union leoliad.
Nid yw’n arfer da symud y cache i fan a allai fod yn fwy
“priodol” yn eich barn chi.
- Gofalwch bod y cache wedi ei selio’n dda pan fyddwch chi’n
ymadael, neu mi fydd dŵr yn mynd i mewn iddo, a gallai’r cache
gael ei ddifetha.